Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 2 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Jul 28, 2026 Llyfrgell
Mae'r Llyfrgell yn darparu byrddau hysbysu mewn mannau cyhoeddus ar gyfer arddangos hysbysiadau'r Llyfrgell. Dylai pob bwrdd hysbysu fod â baner y Llyfrgell a baner Teitl y Bwrdd. Os oes gan y Bwrdd faner Diddordeb Cyffredinol, gall unrhyw un arddangos hysbysiadau priodol, fodd bynnag gellir tynnu'r rhain i lawr ar unrhyw adeg. Nid yw pob bwrdd hysbysu arall at ddefnydd cyffredinol a chaiff unrhyw hysbysiadau heb ganiatâd eu tynnu i lawr. Os oes gennych hysbysiad yr ydych yn teimlo ei bod yn briodol ei arddangos ar fwrdd, heblaw bwrdd Diddordeb Cyffredinol, cysylltwch â nb-contact@aber.ac.uk. Dylai staff y Llyfrgell sy'n dymuno defnyddio'r byrddau hysbysu ddarllen y tudalennau hyn yn gyntaf.