Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 7 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Jul 27, 2026 Llyfrgell
Os byddwch yn colli eitem sydd gennych allan ar fenthyg, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Byddwch yn cael anfoneb am y gost o amnewid yr eitem. Codir anfonebau'n awtomatig ar gyfer eitemau sy'n hwyr 14 diwrnod ac nad ydynt wedi'u dychwelyd i'r llyfrgell.
Unwaith y bydd anfoneb wedi'i chodi, ni fyddwch yn gallu benthyg unrhyw eitemau o'r llyfrgell nes bod yr anfoneb wedi'i thalu neu i'r eitemau ddychwelyd. Os bydd yr eitem yn cael ei dychwelyd i'r llyfrgell, bydd y gost amnewid yn cael ei ad-dalu.
Allwch chwilio fwy o wybodaeth yma: Benthyg : Llyfrgell ac Addysg Ddigidol , Prifysgol Aberystwyth