Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Beth yw SCONUL ac ydw in gymwys i ymuno?

Gwelwyd 3 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Jul 27, 2026    Llyfrgell

 

Defnyddio llyfrgelloedd Sefydliadau Addysg Uwch eraill

Mae 'SCONUL Access' yn wasanaeth sy'n cynnwys y rhan fwyaf o lyfrgelloedd addysg uwch gwledydd Prydain ac Iwerddon yn cydweithio â'i gilydd. Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o'r cynllun hwn, sy'n golygu bod rhai mathau o ddefnyddwyr yn cael defnyddio llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysg uwch eraill. Dyma'r categorïau perthnasol o ddefnyddwyr:

  • staff a myfyrwyr ymchwil
  • myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell, a myfyrwyr ar leoliadau
  • uwchraddedigion a ddysgir drwy gwrs

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun ar wefan Sconul.

Mae yna fwy o wybodaeth ar y wefan yma hefyd: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/otherlibraries/