Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Sut ydw i'n defnyddio'r darllenydd microfilm / microfiche?

Gwelwyd 13 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Jul 28, 2026    Llyfrgell

 

Mae'r Tudalen hwn yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r darllenydd Canon Roll/Fiche Carrier 200.

  • Trowch y darllenydd a'r argraffydd ymlaen. Mae’r botwm pŵer ar gyfer yr argraffydd ar yr ochr dde a botwm pŵer y darllenydd ar y blaen
    power button location
  • Symudwch y fiche carrier yn ôl nes ei fod yn stopio Gwnewch yn siŵr bod y fiche carrier wedi'i symud yr holl ffordd nol, fel arall ni fydd cariwr y rholyn yn gweithio
    Push back fiche carrier
  • Tynnwch y lens allan yn ofalus - peidiwch e'i orfodi
  • Tynnwch y fiche carrier tuag at y cannol
    pull fiche carrier to middle
  • Dylai edrych fel y llun isod:
  • Gwnewch yn siŵr bod y dot ar yr olwyn fawr ar y panel rheoli allanol wedi'i alinio ï'r dot ar y panel ei hun
  • Attodi'r lens. Cymerwch y lens X16-32 fel y llun isod allan o'i flwch
    lens X16-32
  • Cymerid gofal, gwthiwch y lens i mewn i'r daliwr - gan wneid yn sicr bod y gwifrau wedi'i alinio neu bydd o ddim yn ei weithio
  • Efallai bydd angen codi'r lens tamaid felli wnaeth o ddim dal ar ymyl y plat gwydr
    push lens back
  • Gwthiwch y lens yn ôl i mewn i'r fraced yn ddyn tan mae'n clicio
  • Tynnwch y carrier ymlaen tan fod y gwydr yn codi fel bod y ffilm o dan y lensback to front left to right
  • Rhowch y microfiche rhwng y ddau ddarn o wydr. Rhowch o wyneb i weired ac fel bod yn darllen de i'r chwith a thop i'r gwaelod
    fiche positioning
  • Gwthiwch y panel nol o dan y lens i dangos y microfiche ar y sgrin
  • Symudwch y panel o gwmpas i dangos y darn o’r llun a hoffech weldmove panel around
  • Wrth i chi gorffen:
    • Cymerwch y microfiche o'r panel gwydr
    • Cymerwch y lens allan
    • Gwthiwch y carrier yn ôl
    • Gwthiwch y lens yn ôl
    • Diffoddwch yr argraffydd a darllenydd

Defnyddio'r panel rheioli i weld y Microfiche

  • Mae llawer o fotymau yn cael eu dyblygu ar y darllenydd ei hun. Defnyddiwch y panel allanol os nad ydych chi'n hyderus.

    control panel

CONTROL

Mae'r olwyn rheoli yn chwyddo’r, troi a ffocysu’r llun (ar ochr y panel)

SELECT

Yn rhoi hawl i chi chwyddo, focysu a troi (ar ochr y panel)

 

Mae'r darn yma yn dangos pa un sydd yn cael ei defnyddio ar y pryd

Printout options

Mae'r darn yma yn rheoli’r dewisiadau argraffu. Wrth argraffu, wnewch yn siŵr bod y golau yn y canol gan wasgu'r botwm tan fod y golau yn y lle iawn

Portrait to landscape indicator

Fel rheol mae'r argraffydd yn argraffu yn steil portread, os hoffech steil tirlun gwasgwch y botwm unwaith fel bod yn oleio.

Rotate image counterclockwise

Gwasgwch y bwtwn unwaith i drio'r llun unwaith 90° gwrthglocwedd

Rotate image clockwise

Gwasgwch y bwtwn unwaith i drio'r llun unwaith 90° glocwedd

Print option

Gwasgwch y bwtwn unwaith i argraffu yr ardal sydd ofewn y sgrin

Error code screen

Mae'r sgrin yma yn dangos os oes gwall. Welwch yr allwedd isod i ddatgan y gwall

Contrast setting

Mae hon yn newid y cyferbynned yr argraff, ond mea'r FOCUS yn rhoi canlyniadau gwell

Film movement control

Mae'r olwyn fawr ar y panel rheoli yn rhoi hawl i chi troelli ymlaen neu ailddirwyn y ffilm ar y rôl i symud rhwng tudalennau neu dryloywderau. Os yw'r modur yn troi yn rhy gyflym ewch a'r olwyn un ol i'w safle gwreiddiol ac ailddirwyn os oes angen.

Rhif gwall a sut i datrus

Os oes gwall bydd rhif y gwall yn dangos.

Rhif Gwall

Gwall

Ateb

1

Mae'r darllenydd yn gweithio'n iawn

Popeth yn iawn

P0

Chdi di tynnu’r tudalen a oedd yn sownd, ond mae yna dagfa arall

Agor yr argraffydd a gliriwch y dagfa papur

P1

Mae yna dagfa papur yn yr argraffydd

Agor yr argraffydd a gliriwch y dagfa papur

P2

Mae yna dwy daflen o bapur yn sownd yn yr argraffydd

Agor yr argraffydd a gliriwch y dagfa papur

L1

Does dim papur ar gael

Gwirio bod papur yn yr argraffydd

L2

Angen arliw

Cysylltu â Gwasanaethau Llyfrgell

L4

Mae clawr yn argraffydd ar agor

Gwirich bod y clawrion ar gau yn iawn

L5

Mae'r bwlb ar y darllenydd wedi chwythu

Cysylltu â Gwasanaethau Llyfrgell

L6

Botwm Zoom M1, M2 or M3 wedi eu gwasgu, ond mae'r gwerth ar gyfer lens wahanol.

Mae'r lens ddim wedi eu gosod yn iawn

Newid y lens ar gyfer yr un wnaethoch ddefnyddio i'w recordio M1, M2 neu M3 

Tynnwch y lens a'i ailosod yn iawn yn y daliwr

L8

Maint y papur yn yr argraffydd yn anghywir

Disodli efo papur A4

L9

Mae'r argraffydd wedi diffodd

Trowch y printer ymlaen