Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 3 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Jul 28, 2026 Llyfrgell
Llyfrgell Hugh Owen: Pwyswch y botwm Dychwelyd Eitem/au ar y sgrin. Gwthiwch eich eitemau un ar y tro yn araf i mewn i’r peiriant. Arhoswch ennyd i'r peiriant brosesu'r eitem cyn gwthio eitem arall. Ar ôl dychwelyd yr eitemau i gyd, pwyswch ymadael. Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch wrth ymyl y peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd.
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol: Pwyswch y botwm Dychwelyd ar y sgrin Rhowch eich llyfrau ar y pad (gallwch osod nifer o eitemau ar yr un pryd). Bydd y peiriant yn dechrau cofnodi'r llyfrau fesul un. Bydd rhestr o'r llyfrau a ddychwelwyd yn ymddangos ar y sgrin. Arhoswch eiliad i'r peiriant orffen prosesu pob eitem. Unwaith bydd y llyfrau i gyd wedi'u rhestru gallwch roi nhw ar y troli ar ochr dde'r peiriant. Byddwch yn derbyn derbynneb trwy e-bost yn manylu'r eitemau a ddychwelwyd. Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch ar ochr dde'r peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd. 