Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Rwyf wedi derbyn anfoneb am lyfr sydd ar goll. Beth ddylwn ei wneud?

Gwelwyd 5 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Jul 28, 2026    Llyfrgell

 

Os yw'r llyfr dal gyda chi, dychwelwch y llyfr i un o'n Llyfrgelloedd mor gynted â phosib. Bydd nodyn credyd yn cael ei greu i ganslo'r anfoneb a bydd eich cyfrif Llyfrgell yn cael ei ail-agor.

Mi fyddwch chi dal yn atebol i dalu'r dirwyon hwyr ( Sut ydw i'n gwneud hynny? . Os ydych chi wedi colli'r llyfr, fydd angen i chi dalu'r anfoneb drwy'r Adran Gyllid  cyn bod modd i chi benthyg fwy o lyfrau o'r Llyfrgell. Gallwch dalu ar-lein, dros y ffon neu mewn person.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr anfoneb rydych chi wedi derbyn ar gyfer llyfrau, cysylltwch gyda ni mor gynted â phosib. (Sut ydw i yn gwneud hyn?)