Mae eitem rwyf wedii ddychwelyd ir llyfrgell yn dal i ymddangos ar fy nhgyfrif. Beth ddylwn ei wneud?
Gwnewch nodyn o'r manylion canlynol (gwybodaeth ar gael ar ôl mewngofnodi i Primo):
- Teitl y llyfr
- 'Barcode'
- Rhif Dosbarth
- Sut a phryd gwnaethoch ddychwelyd y llyfr, ac os gawsoch chi dderbynneb (ond ar gael os ydw i'n dychwelyd ar y peiriant hunan-ddychwelyd).
Cysylltwch ni gyda'r manylion yma mor gynted â phosib (Sut ydw i yn gwneud hyn?).
EN:3188
- Peidiwch ag adnewyddu'r llyfr.
- Edrychwch trwy eich eiddo personol: os ydych yn dod o hyd i'r llyfr, rhowch wybod i ni a dychwelyd y llyfr mor gynted â phosib.
- Mi fyddwn yn edrych am y llyfr yn ei'n Llyfrgelloedd i gyd am bythefnos.
- Os ydyn yn dod o hyd i'r llyfr, mi fyddwn yn dychwelyd y llyfr oddi ar eich cyfrif ac yn tynnu unrhyw ddirwyon oddi ar eich cyfrif sydd yn berthnasol a'r llyfr.
- Mae'r llyfr yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i chi a byddwch yn atebol i dalu am gopi newydd i'r Llyfrgell os nad oes modd dod o hyd i'r llyfr ar ôl 4 wythnos.