Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Sut ydw i'n gofyn am fenthyciad post o'r llyfrgell?

Gwelwyd 37 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Sep 19, 2026    Llyfrgell Primo

 

Byddwn ond yn postio llyfrau lle nad oes copi ar gael yn electronig.

I ofyn am fenthyciad post: Mewngofnodwch i Primo - primo.aber.ac.uk.

Dewch o hyd i'r llyfr yr hoffech ei fenthyg

 Cliciwch ar Canfod a Gwneud Cais ar ochr chwith y sgrin:

Cwblhewch y meysydd Canfod a Gofyn a nodwch Cyfeiriad Cartref fel y Lleoliad casglu.

Yn y maes sylwadau teipiwch y cyfeiriad yr hoffech i'r eitem cael ei bostio iddo, gan gynnwys y cod post. Mi fydd angen i chi hefyd nodi rhif ffôn er mwyn i ni rhannu gyda'r Cwmni Cludiant. 

Cliciwch ar Cais

Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau hyn oddi wrth Lyfrgell Hugh Owen cyn gynted ag y bydd y llyfr wedi'i bostio atoch.