Gall ceisiadau am Gerdyn Aber gael eu gwrthod am y rhesymau canlynol:
Nid yw'r llun a lwythwyd yn addas - gweler ein canllawiau ar gyfer dewis llun addas.
Nid ydych yn gymwys am Gerdyn Aber newydd am ddim oherwydd nad yw eich ymddangosiad wedi newid yn sylweddol ers y llun ar eich cerdyn presennol. Os hoffech newid eich Cerdyn Aber o hyd ewch i https://abercard.aber.ac.uk/ a dewiswch 'Rwyf eisiau newid fy llun' o'r gwymplen. Gofynnir i chi wedyn lwytho eich llun newydd a gwneud taliad.
Nid ydych wedi talu'r gost adnewyddu am gerdyn a gollwyd. Os hoffech wneud cais a thalu am Gerdyn Aber a gollwyd ewch i https://abercard.aber.ac.uk/ a dewiswch 'Rwyf wedi colli fy ngherdyn' o'r gwymplen a chlicio ar 'OK' . Cliciwch ar 'Add Payment' ac yna View the contents of your basket . Cliciwch ar Make Payment a rhowch fanylion eich Cerdyn Credyd/Debyd. Ar ôl i'r taliad ar-lein gael ei brosesu, bydd modd i chi gasglu eich cerdyn o Lyfrgell Hugh Owen.