Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 3 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Jul 20, 2026 Llyfrgell
1.Beth yw mynediad cerdded i mewn? Mynediad cerdded i mewn yw’r enw ar y ffordd y gall aelodau o’r cyhoedd nad ydynt wedi’u cofrestru â’r Brifysgol gael mynediad at adnoddau electronig penodol, megis e-gyfnodolion, e-lyfrau a chronfeydd data. Nid yw hyn yr un fath â mynediad cyffredinol i’r rhyngrwyd, gan fod y gwasanaeth cerdded i mewn wedi’i anelu’n benodol at adnoddau academaidd electronig.
2. Ymhle mae’r gwasanaeth hwn ar gael? Mae gan Brifysgol Aberystwyth derfynell gyfrifiadurol yn benodol ar gyfer mynediad i ddefnyddwyr cerdded i mewn, a’r derfynell honno wedi’i lleoli ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen, Campws Penglais. Ar y derfynell hon yn unig y mae’r gwasanaeth mynediad cerdded i mewn ar gael yn y Brifysgol. Mae’r prifysgolion eraill yng Nghymru sy’n darparu’r gwasanaeth hwn yn cynnwys: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (ar gampysau Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan)
3. Pwy all ei ddefnyddio a phryd? Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd dros 18 oed ddefnyddio’r gwasanaeth mynediad cerdded i mewn; mae’r cyfyngiad oedran oherwydd natur sensitif peth o’r deunyddiau sydd yn yr adnoddau electronig. Mae’r gwasanaeth cerdded i mewn ar gael drwy gydol oriau agor Llyfrgell Hugh Owen
4. Sut ydw i’n cofrestru? Yn gyntaf, bydd angen i chi fynd i’r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen gan ddod â dull o’ch adnabod gyda chi, megis pasbort, cerdyn credyd neu ddebyd, trwydded yrru neu fil gwasanaethau. I sicrhau y cewch fynediad, efallai yr hoffech gysylltu â’r Llyfrgell cyn cyrraedd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael, oherwydd yn ystod amseroedd prysur gall y Llyfrgell rhoi blaenoriaeth i fyfyrwyr a staff i ddefnyddio’r cyfrifiadur. Ar ôl cofrestru, gofynnir i chi gytuno i bolisi Defnydd Derbyniol, sy’n egluro’r amodau defnyddio gan Brifysgol Aberystwyth a chan ddeiliaid hawlfraint yr e-adnoddau. Ar ôl gwneud hynny, byddwch yn rhydd i ddefnyddio’r gwasanaeth o fewn ffiniau’r polisi Defnydd Derbyniol; bydd aelod o staff y Llyfrgell yn eich cyflwyno i’r gwasanaeth. Mae’n werth nodi mai at ddefnydd addysgol yn unig y caniateir mynediad i’r gwasanaeth cerdded i mewn, megis astudiaethau preifat neu ymchwil. Mae defnydd masnachol wedi’i wahardd yn llwyr gan y c ytundebau t rwydded u . Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi holi aelod o staff y Llyfrgell.
5. Sut ydw i’n defnyddio’r gwasanaeth? Ar ôl i chi gofrestru, bydd staff y llyfrgell yn dangos i chi ble mae’r derfynell gyfrifiadurol. Yna dylech fedru gweld y dudalen Croeso sydd â rhestr o’r adnoddau sydd ar gael. Bydd manylion hawlfraint unigol a gwybodaeth am bob adnodd hefyd ar y dudalen Croeso. Sylwer mai chwilio am gynnwys yn yr adnoddau unigol yn unig y gallwch ei wneud, nid chwilio drwy’r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Cliciwch ar y tab Mynd i Wefan yr Adnodd sydd o dan y disgrifiad o bob adnodd er mwyn chwilio am gynnwys.
6. Faint o ddeunydd y gallaf gael mynediad ato? Mae rhestr o gronfeydd data, e-lyfrau ac e-adnoddau y cewch fynediad iddynt ar y dudalen 'Croeso' sydd ar y derfynell mynediad cerdded i mewn. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn cynnig mynediad i 22 o adnoddau i ddefnyddwyr cerdded i mewn, gan gynnwys casgliadau e-gyfnodolion ac e-lyfrau: Adnoddau Math o adnodd American, Chemical,Society, Cylchgronau, Annual Reviews, Cylchgronau British Education Index (ProQuest) Bas data, British Periodicals, Bas data Burney, Collection of Newspapers, Bas data Cambridge Journals Online, Cylchgronau EBSCO, Business Source, Complete Bas data EBSCO e-book collection e-lyfrau, House of Commons Parliamentary Papers (18th, 19th & 20th Century) Bas data, JISC Historic Books (including Early English Books Online and Eighteenth Century Collections Online), Bas data JSTOR Cylchgronau Library and Information, Science Abstracts Bas data, Literature Online Bas data, Oxford Dictionary of National Biography Bas data, Oxford English Dictionary Bas data Oxford Journals, Cylchgronau Periodicals Archive Online, Cylchgronau Royal Society of Chemistry, Cylchgronau ScienceDirect, Cylchgronau The Times Digital Archive 1785-1985, Bas data Wiley Online Library Cylchgronau.
7. Pam nad yw’r e- adnodd hwn ar gael? Nid yw’r holl adnoddau y mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt ar gael i ddefnyddwyr cerdded i mewn oherwydd disgresiwn deiliad yr hawlfraint, ac efallai nad yw’r Brifysgol yn tanysgrifio i’r holl gynnwys o fewn pob adnodd. Yn ogystal, gan fod deiliaid hawlfraint yn cadw’r hawl i roi neu dynnu mynediad atynt fel y gwêl yn dda, mae mynediad cerdded i mewn i adnoddau penodol yn gallu newid ac felly nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd ar gael.
8. Pa adnoddau sydd ar gael yn fy maes diddordeb i? Ar y dudalen Croeso, dylai pob dolen adnoddau fod â disgrifiad byr o gynnwys yr adnoddau. Mae rhai adnoddau yn benodol i bwnc, tra bod eraill yn gasgliadau o ystod ehangach o ddeunydd. Nid ydych yn gallu chwilio am gynnwys drwy’r gwasanaeth cyfan, ond mae’n bosibl chwilio o fewn cronfeydd data unigol, e-gyfnodolion ac e-lyfrau am wybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch maes diddordeb.
9. Faint gaf i argraffu? Caniateir i ddefnyddwyr cerdded i mewn argraffu un copi o ddetholiad o un rhifyn cyfnodolyn neu lyfr. Mae’r detholiad hwn yn gyfyngedig i un erthygl o rifyn cyfnodolyn/cylchgrawn, neu un bennod neu hyd at 10% o lyfr. Gweler y prisiau argraffu: Gwasanaethau TG : Gwasanaethau TG , Prifysgol Aberystwyth
10. Sut ydw i’n argraffu? Ar hyn o bryd ddim ar gael.