Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 6 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Jul 29, 2026 Llyfrgell
Staff sydd wedi ymddeol- Os ydych yn cyn aelod o staff sydd wedi ymddeol, e-bostiwch llyfrgell@aber.ac.uk i nodi bod chi dal yn defnyddio'r cyfrif ac angen cael estyniad. Mi fydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost i chi i gadarnhau unwaith i ddyddiad cau'r cyfrif gael ei newid.
Defnyddwyr sy'n talu- Bydd angen i'r defnyddwyr sy'n talu, talu er mwyn cael mynediad. I wneud taliad, fydd angen i chi:
Ymweld â - https://shop.aber.ac.uk/ Ewch i: Gwasanaethau Gwybodaeth / Gwasanaethau Llyfrgell

Dewis yr aelodaeth berthnasol (Gallwch brynu mwy nag un i brynu aelodaeth hirach (£15 y chwarter) Cliciwch 'Add to basket'

Cliciwch ar Shopping Basket yng nghornel dde y sgrin

Cliciwch 'Proceed to Checkout'

Os nad ydych wedi defnyddio'r siop o'r blaen, fydd angen i chi cofrestru yn gyntaf fel Cwsmer Newydd.

Os ydych yn dychwelyd, gallwch fewngofnodi gan ddefnyddioch enw cyfrif a chyfrinair.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a thalu drwy ddefnyddio eich manylion cerdyn personol. Byddwch yn derbyn e-bost o'r Llyfrgell i gadarnhau pan fydd eich cyfrif wedi creu / ymestyn.