Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Sut ydw i'n archebu ystafell astudio yn Llyfrgell Hugh Owen a'r Weithfan?

Gwelwyd 4 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Jul 14, 2026    Llyfrgell

 

Archebu Ystafelloedd Astudio gan ddefnyddio Outlook (fersiwn bwrdd gwaith) I archebu ystafell astudio yn Outlook: Agor Calendr Outlook:  Agor Outlook ac ewch i’ch calendr. Creu Cyfarfod Newydd:  Cliciwch ar "Cyfarfod Newydd" neu "Apwyntiad Newydd" i ddechrau cais am gyfarfod newydd. Ychwanegu Mynychwyr a Manylion:  Rhowch deitl i’r cyfarfod, ychwanegwch fanylion mynychwyr, a’r dyddiad a'r amser rydych am ddefnyddio’r ystafell. Chwilio am Ystafell:  Cliciwch ar "Chwilio am Ystafell ..." neu "Room Finder" (bydd cwymplen yn ymddangos yn y maes Lleoliad sydd hefyd yn dangos rhagor o opsiynau). Dewiswch Ystafell :   Porwch  y rhestr neu  chwiliwch am ystafell addas . G allwch c hwili o  am  ystafell  benodol  neu hidlo ’r ystafelloedd yn ôl  lleoliad, maint neu nodweddion. Ychwanegu’r Ystafell at Eich Cais am Gyfarfod:  Unwaith y byddwch wedi dewis ystafell, cliciwch arni i’w hychwanegu at eich cyfarfod. Anfonwch y Gwahoddiad:  Gwiriwch holl fanylion y cyfarfod a chliciwch "Anfon" i wahodd eich mynychwyr ac archebu'r ystafell. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod y stafell wedi archebu. Sut i Archebu Ystafelloedd Astudio gan ddefnyddio ap Outlook Canslo  Archeb Ystafell   yn Outlook I ganslo’ch archeb yn Outlook: Dewch o hyd i’r cyfarfod:  Agorwch eich calendr Outlook a chwiliwch am yr archeb rydych chi am ei ganslo.  Agor y cyfarfod:  Rhowch glic-ddwbl ar y cyfarfod i'w agor.  Canslo'r cyfarfod: Os mai chi wnaeth drefnu'r cyfarfod, mi welwch botwm "Canslo Cyfarfod" (neu "Canslo" ar gyfer cyfarfodydd sy’n ailddigwydd).  Os mai rhywun arall wnaeth drefnu'r cyfarfod, bydd angen iddynt hwy ei ganslo. Anfonwch neges ganslo:  Ar ôl clicio "Canslo Cyfarfod", gofynnir i chi anfon neges i gadarnhau. Cadarnhad : Unwaith y bydd y neges ganslo wedi'i hanfon, bydd eich archeb am yr ystafell astudio yn cael ei dynnu o'ch calendr chi ac o galendr yr ystafell. Er tegwch, gallwch wneud cais am ystafell astudio Unwaith y dydd Am bedair awr ar y mwyaf Hyd at wythnos ymlaen llaw