Sut ydw i'n archebu ystafell astudio yn Llyfrgell Hugh Owen a'r Weithfan?
Archebu ystafelloedd astudio gan ddefnyddio Outlook (fersiwn bwrdd gwaith)
I archebu ystafell astudio yn Outlook:
- Agor Calendr Outlook: Agor Outlook ac ewch i'ch calendr.
- Creu Cyfarfod newydd: Cliciwch ar "Cyfarfod Newydd" neu "Apwyntiad Newydd" i greu cais am gyfarfod newydd.
- Ychwanegu Mynychwyr a Manylion: Rhowch deitl i'r cyfarfod ac ychwanegwch y dyddiad, yr amser a'r mynychwyr.
- Chwilio am Ystafell: Cliciwch ar "Pori Ystafelloedd" neu "Room Finder". Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwymplen yn y maes "Lleoliad" sydd hefyd yn dangos mwy o opsiynau .

- Dewis Ystafell: Porwch y rhestr neu chwiliwch am ystafell benodol. Gallwch hidlo'r canlyniadau yn ôl lleoliad, maint neu nodweddion yr ystafell.

- Ychwanegu'r ystafell at y cyfarfod: Ar ôl dewis ystafell, cliciwch arni i'w hychwanegu at eich cais am gyfarfod.
- Anfon y Gwahoddiad: Gwiriwch holl fanylion y cyfarfod a chliciwch ar "Anfon" i archebu'r ystafell ac anfon y gwahoddiad.
- Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod yr ystafell wedi'i harchebu.
Canslo Archeb Ystafell Astudio yn Outlook
I ganslo archeb yn Outlook:
- Dewch o hyd i'r cyfarfod: agorwch eich Calendr Outlook a dewch o hyd i'r archeb rydych am ei chanslo.
- Agor y cyfarfod: Cliciwch ddwywaith ar y cyfarfod i'w agor.
- Canslo'r cyfarfod: Os mai chi drefnodd y cyfarfod, cliciwch ar "Canslo Cyfarfod" (neu "Canslo" os yw'n gyfarfod sy'n ailddigwydd).
- Os mai rhywun arall drefnodd y cyfarfod, bydd angen i'r trefnydd ei ganslo.
- Anfon yr hysbysiad canslo: Ar ôl clicio ar "Canslo Cyfarfod", gofynnir i chi anfon hysbysiad canslo.
- Cadarnhad: Unwaith y bydd yr hysbysiad wedi'i anfon, bydd yr archeb yn cael ei dileu o'ch calendr ac o galendr yr ystafell.
Er mwyn sicrhau defnydd teg o'r ystafelloedd astudio:
- Dim ond un archeb y dydd a ganiateir.
- Gellir archebu ystafell am uchafswm o bedair awr.
- Gellir gwneud archebion hyd at wythnos ymlaen llaw.
EN:3225