Neidiwch i'r prif gynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw I wedi cael fy sgamio?

Gwelwyd 2 o weithiau   |   0 Hoffi'r cwestiwn hwn?   0 Ddim yn hoffi hwn?   |   Diweddarwyd diwethaf Oct 13, 2026   

 

Peidiwch â theimlo cywilydd, gall sgamiau ddigwydd I unrhyw un. Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw gofyn am help cyn gynted ag sy’n bosibl.

Beth I’w wneud ar unwaith:

  1. Cysylltwch  â’ch  banc: Os ydych wedi rhannu manylion banc neu wedi trosglwyddo arian, cysylltwch  â’ch banc ar unwaith I ddiogelu eich cyfrif a’ch cynghori am y camau nesaf y dylech eu cymryd.
  2. Stopiwch bob cyswllt: Peidiwch ag ymateb i’r sgamiwr. Blociwch y person os oes modd.
  3. Diogelwch eich cyfrifon: Newidiwch unrhyw gyfrineiriau a rhifau PIN sydd wedi’u peryglu, galluogwch ddilysu dau ffactor a gwiriwch am weithgarwch amheus.

Beth i’w wneud nesaf:

  • Rhowch wybod am y sgam: Rhowch wybod am sgam neu twyll drwy Report Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
  • Cysylltwch â’r heddlu os oes angen: Os ydych yn cael eich bygwth, yn cael eich aflonyddu neu mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu. Mae rhagor o arweiniad ar gael gan Heddlu Dyfed-Powys.
  • Gofynnwch am gymorth: Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo neu cysylltwch â staff y Brifysgol os yw’r sgam yn effeithio ar eich lles, eich sefyllfa ariannol neu’ch astudiaethau. Gall Tîm Cyngor ac Arian y Brifysgol gynnig cyngor ariannol.

Ewch i dudalen y Brifysgol ar Cadw’n ddiogel rhag sgamiau a thwyll  : Gwasanaethau Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth i gael rhagor o gyngor ac adnoddau defnyddiol